yrieithydd: Classic Welsh alphabet poster. A B C Ch D Dd E F FF G Ng H I L LL M N O P Ph R Rh S T Th U W Y (Wyddor)
[personal profile] yrieithydd
Roedd y daith yn hir ac yn boeth ond o'r diwedd, cyrraeddais i adref. Tua hugain munud wedi tri oedd hi ac oedd rhaid mynd i'r mor. Dim siawns o fod yn synhwyrol a mynd i'r Llyrgell Gen yn syth fel o'n i wedi cynllunio, ond mas trwy ffrynt yr orsaf -- ffrynt yr orsaf? Profiad newydd imi! -- ac i lawr Ffordd y Mor, yn sylwi ar heb bethau a phethau newid (Beth oedd lle mae Laura Ashley Home?). Teimlad rhyfedd oedd, mae'n bedair blynedd ers i mi raddio (neu fydd e mewn bythefnos) a thair a hanner ers imi fod yma, ond Aber yw e ac ar un lefel, Cartref.

Gan fod dwy fag 'da fi (ac un yn gynnwys cyfrifiadur, ni es i i mewn i'r mor pryd 'ny ond troi rownd, lawr Stryd Portland,* heibio i Spar, croesi'r ffordd a lan y bryn. Cyrraedd Pantycelyn a throi i'r dde ac i'r Llyfrgell Gen â fi. Wedi adnewyddu fy nhocyn (a doedd hynny ddim yn broblem; mi newidiais i'r llun 8 mlwydd oed am un ddiweddarach -- dim ond 4 blwydd oed!), i chwilio am y traethawd yr oedd ei eisiau arnaf i. Profiad newydd arall arnaf i, mynd i Ystafell Ddarllen y Dde! Wedi archebu'r traethawd, amser am beth gwaith cyn i'r llyrfgell cau. Wedyn lan trwy'r Campws i Dderbynfa Neuaddau Rosser, Trefloyne a Chwrt Mawr. Siaradais i Gymraeg, a dyna'r porthorion yn edrych yn rhyfedd arnaf i, felly triais i Saesneg yn dweud `It's Wales; I speak Welsh' ac atebon `Who does?' Roedd yn gyfeillgar ar ol hynny ond siom oedd nad oedd rhywun a oedd yn medru Cymraeg fan 'na; roedd y Llyfrgell Gen wedi bod yn iawn. Des i o hyd i'm stafell, a dweud Gosber** cyn mynd lawer y bryn eto.

Y tro 'ma cerddais yn y mor a trio sgimo cerrig heb lawer o lwc. Bwyd nawr, ond roedd Spartacus ar gau (oedd e arfer ar gau nos Lun?) felly es i i Marco, siop sglodion. Yn ôl i'r Prom â nhw a chicio'r bar (a bron yn cwympo) ac wedyn eisteddais ar fainc a darllen y Church Times; y tro cyntaf i mi wneud hynny dw i'n credu. Wedyn amser mynd i'r Goedwig clychau gleision. Ar ô cerdded trwy rhai lwybrau hanner gofiedig cyrraeddais y clearing, a wedyn y fainc lle o'n i'n arfer eistedd. Wel, lle roedd y fainc o'n i arfer eistedd, ond mainc newydd oedd yno. Eisteddais a theimlo'n gryf iawn; dwi'n methu esbonio. Ar un lefel, ro'n i mor hapus fod yn ôl ond o'n i'n bron yn crio. Mae wedi bod yn rhy hir. Do'n i ddim wedi sylweddoli pa mor gryf oedd fy nheimladau am Aber. Sai'n credu y byddwn yn teimlo fel hyn am Ainsdale neu hyd yn oed Alsager. Dw i'n hoff iawn o Gaergrawnt, y bobl a'r traddodiaid, ac i ryw raddau'r lle ei hun, ond mae Aber yn Aber. Mae gwreiddiau 'da fi yma yn deimladol os nid yn yr ystyr arferol. Yn meddwl am y lle yn ddiweddar dw i wedi canolbwyntio ar ddiffygion crefyddol y lle a wedi anghofio llwyth o bethau eraill: y mor, y bryn, y coedwig, Consty, y strydoedd. Dw i heb mynd yn bell na ffordd y mor eto, rhaid imi gyrraedd yr Hen Gol rywbryd. Cyn ddod, do'n i ddim yn edrych ymlaen at gerdded i lan y bryn: diffyg ymarfer yng Ngaergrawnt, sut y byddwn yn llwyddo? Ond, wrth gyrraedd a cherdded i fyny'r bryn, roedd yn iawn, yn hollol naturiol.

*Dwi'n credu Stryd Portland oedd e. Yr un y mae Capel y Morfa arni. Do'n i byth/erioed yn medru cofio p'un oedd p'un!

**Llawer yn gyflymach na Boreol Weddi a gymerodd tua awr. Iawn oedd 5 munud yn siarad am y tocyn ond roedd yn cyfle dda i weddio.
This account has disabled anonymous posting.
If you don't have an account you can create one now.
HTML doesn't work in the subject.
More info about formatting

Profile

yrieithydd

August 2025

S M T W T F S
     12
3456789
10111213141516
17181920212223
2425 2627282930
31      

Most Popular Tags

Style Credit

Expand Cut Tags

No cut tags
Page generated Jan. 31st, 2026 05:52 am
Powered by Dreamwidth Studios