Dec. 2nd, 2005

yrieithydd: Classic Welsh alphabet poster. A B C Ch D Dd E F FF G Ng H I L LL M N O P Ph R Rh S T Th U W Y (Wyddor)
Ar ôl post diweddar (yn Saesneg) [livejournal.com profile] marnanel* am agwedd AC Llafur Newydd at weithred uniongyrchol di-drais (fel graffiti yn galw am ddeddf iaith newydd), es i i wefan Cymdeithas yr Iaith a ddarllenais erthygl am Broclamasiwn `Cymraeg yn hanfodol'. Dw i'n hoff iawn o hyn:

Dwyieithrwydd Cymraeg
Mae'r Proclamasiwn yn galw'r nod hwn yn ‘Ddwyieithrwydd Cymraeg’. Golyga hyn wyrdroi 'r drefn bresennol o ddwyieithrwydd Saesneg, lle bo cyrff fel Cynghorau Sir, Asiantaethau Cyhoeddus a Cholegau Addysg yn cyflawni bron y cyfan o'u gwaith yn Saesneg gan ddibynnu ar gyfieithu er mwyn cyflwyno delwedd ddwyieithog i’r cyhoedd. O dan y drefn newydd o gyfieithu ar gyfer y di-Gymraeg, cofnodid cost cyfieithu fel gwariant ar y Saesneg.


Dyna'r ffordd iawn i wneud pethau. Dw i'n cofio yn Aber yn cwyno pan gafodd ein harholiadau eu dechrau gyda'r Saesneg yn gyntaf a wedyn y Gymraeg oherwydd ei bod yn teimlo fel symboleiddiaeth,** rhaid gwneud pethau yn y Gymraeg neu y byddai pobl yn cwyno er bod pawb wedi deall y tro cyntaf. Beth oedd yn well oedd iddynt ddefnyddio Cymraeg a wedyn ei chyfieithu ar gyfer y rhai nad oedd wedi deall. Fel arfer dyna beth o'n i'n profi, ond dw i'n credu oherwydd mai arholiadau Adran y Gymraeg oeddent! Yr un dw i'n cofio lle na ddigwyddodd fel hynny oedd arholiad Ffrangeg yn fy ail flwyddyn. Ond y broblem wedyn yw nad yw'r myfryfiwyr o Loegr, neu Gymry di-Gymraeg ayb yn deall pwysigrwydd y Gymraeg.


Dw i hefyd am sylwi ar y ffaith bod Cymdeithas yr Iaith yn defnyddio mwy ar ôl dechrau erthygl ar y tudalen blaen ond yn yr URL*** maent yn defnyddio rhagor

*Diolch i [livejournal.com profile] senji am ein cyflwyno

**Dyna beth mae Geiriadur yr Academi yn rhoi am `tokenism' ond dwi'n synnu.

***Dw i am rhoi hynny yn y Cymraeg. URL = Universal Resource Locator OCiyI felly, Lleolwr Adnodd Hollgyffredinol neu LlAH!

The translation! )

Profile

yrieithydd

March 2026

S M T W T F S
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
293031    

Most Popular Tags

Page Summary

Style Credit

Expand Cut Tags

No cut tags
Page generated Apr. 11th, 2026 03:42 pm
Powered by Dreamwidth Studios