yrieithydd: A photo of a stained glass window from Taize. Mary and Elizabeth meet. There is a faint image of John the Baptist and Jesus in their words. (Visitation)
yrieithydd ([personal profile] yrieithydd) wrote2005-10-25 10:20 am
Entry tags:

Yr Angelus yn y Gymraeg

Wel, neithiwr cofiais edrych yn fy LLGG (1984) a fy Mibl* am y darnau sy'n ffurfio'r Angelus a chyfieithu'r brawddegau arall. Dyma fy ngeis (y darnau mewn teip eidalaidd yw'r rhai yr wyf wedi'u cyfieithu):

Daeth Angel yr Arglwydd â neges at Fair
a beichiogodd trwy'r Ysbryd Glan

Henffych well, Fair, llawn o ras
Yr Arglwydd sydd gyda thi
bendigedig wyt ti ymhlith merched
a bendigedig_ffrwyth dy groth di, Iesu
Sanctaidd Mair,
Mam Duw
Gweddïa drosom yr awr hon
ac yn awr ein hangau

Wele wasanaethyddes yr Arglwydd
bydded i mi yn ôl dy air di
Henffych well ...

A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd
ac a thrigodd yn ein plith ni
Henffych well ...

Gweddïa drosom, sanctaidd Mam Duw
fel y byddem yn deilwng o addewon Crist


Gweddïwn:
O Argwlydd, erfyniwn arnat dywallt dy ras yn ein calonnau
fel, megis y bu i ni wybod am ymgnawdoliad dy Fab trwy genadwri Angel,
fod inni trwy ei groes + a'i dioddefaint
gael ein dwyn i ogoniant ei atgyfodiad,
trwy'r un Iesu Grist ein Harglwydd,
Amen

*Dyna sut y sillafwyd ar fy nghopi o fersiwn adolygedig 1620 o Beibl 1588.

[identity profile] the-alchemist.livejournal.com 2005-10-25 12:55 pm (UTC)(link)
I've got it and sent it on to Lea. Thank you very much!